Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012

 

 

 

Amser:

09:20 - 11:00

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_400000_19_06_2012&t=0&l=cy

 

 

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Mike Hedges

Julie Morgan

Gwyn R Price

Jenny Rathbone

Aled Roberts

Andrew RT Davies (Cadeirydd)

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru

Paul Dimblebee, Swyddfa Archwilio Cymru

Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Tom Jackson (Clerc)

Daniel Collier (Dirprwy Glerc)

Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1.  Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

1.1 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau i benodi Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Gwnaeth Mohammad Asghar enwebu Andrew RT Davies, ac fe’i penodwyd ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

 

</AI1>

<AI2>

2.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, yr oedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran, a chan Lyndsay Whittle.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Sesiwn friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol

3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Alan Morris, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, roi sesiwn friffio i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi enghreifftiau o’r ymarferion i ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cael eu rhoi ar waith gan gynghorau yng Nghymru.

 

3.3 Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i roi enghreifftiau o arfer da a nodwyd yn ystod ei archwiliad ac i roi adborth ar ganlyniadau’r Seminar Cyd-ddysgu ar ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru.

 

</AI3>

<AI4>

4.  Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 i 7.

 

</AI4>

<AI5>

5.  Opsiynau ar gyfer ymdrin ag ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol.

 

</AI5>

<AI6>

6.  Penderfynu ar dystion ar gyfer yr ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy'r River Lodge gynt, Llangollen

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ba dystion yr hoffai eu gwahodd i roi tystiolaeth i’w ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy’r River Lodge gynt, Llangollen.

 

</AI6>

<AI7>

7.  Trafodaeth am broses anffurfiol Aelodau o gasglu gwybodaeth am fframwaith Rheoli Grantiau yr Alban

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth ar broses anffurfiol yr Aelodau o gasglu gwybodaeth am fframwaith rheoli grantiau yr Alban.

 

</AI7>

<AI8>

8.  Papurau i'w nodi

8.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2012.

 

</AI8>

<AI9>

Trawsgrifiad

 

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>